alt

Capel y 21af Ganrif

Yr Elfen Cymraeg

Y mae elfen Gymreig gref yma yng Nghapel y 21af Ganrif  – 21st Century Church.Rydym yn cwrdd yng Nghapel Saron, Ffwrnes ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yng Nghapel Siloah yn ardal Glanymor (Seaside).

 

Yn yr eglwys y mae tua 50% o’r oedolion a bron 70% o’r plant ieuenctid yn medru siarad Cymraeg. Defnyddir yr iaith yn helaeth yn ystod amseroedd cymdeithasu.

 

Mae naws Cymraeg gref i’w glywed yn ein hoedfaon yn enwedig yn y canu ac yn ein gweddiau yn ystod yr wythnos. Ein polisi i ddelio gyda’r sialens o gael cyd-bwysedd rhwng y defnydd o’r iaith ac efengylu mewn byd sy’n defnyddio Saesneg gan amlaf yw:-


Credwn fod hawl gan y Cymry Cymraeg I addoli yn eu mam-iaith neu iaith y galon.

Rhyddid i ganu a gweddio ar Dduw yn ystod y gwasanaeth yn y Gymraeg trwy ganu caneuon Cymraeg a’r rhain wedi cyfieithu i’r Saesneg ar gyfer y sawl sydd ddim yn medru’r Gymraeg a hefyd trwy weddio ar goedd neu’n dawel yn y Gymraeg heb gyfiethiad yn ystod cyfarfodydd yn yr wythnos.

 

Serch hynny, ein polisi yw i efengylu pawb gan gyfathrebu mewn iaith meant yn deall ac  yn ein defnyddio, gyda dyn a Duw a’r Saesneg yw’r iaith yna oherwydd bod pawb yn ei deall a byddai defnydd o’r Gymraeg yn eithrio rhai rhag clywed yr efengyl.

 

Mae gan yr Apostol Paul rhywbeth i ddweud am y pwnc wrth drafod siarad mewn tafodau trwy nodi ei fod yn cael ei or-ddefnyddio gan yr eglwys a dylid defnyddio iaith synhwyrol a deallus er mwyn i’r pechadur glywed yr efengyl a rhoi ei fywyd i’r Arglwydd. 1 Corinthiaid 14

 

Credwn felly –

Ein nod cyntaf yw i ail adeiladu’r eglwys i fod yn bethnasol a chyfoes i’n hoes, ein pobl a’n cymuned.

Yn ail i ddatblygu pethau annwyl (i’n calonnau) sef datblygu’r iaith Gymraeg.


Medrwn defnyddio’r iaith fel cymorth a bendith nid fel wal yn rhwystr i ddarostwng cyn bod pawb yn gallu clywed efengyl Duw.

 

Credwn fod y cyd-bwysedd gennym yn iawn yn yr addoli a’r cymdeithasu. Mae nifer o’n caneuon newydd yn y Gymraeg a dymunwn gyfieithu rhagor o’n caneuon Saesneg i’r Gymraeg. Defnyddiwm yr hen emynau Cymraeg anhygoel yn ein gwasanaethau yn aml ac meant yn dal i wefreiddio pobl wrth eu clywed a’u canu.

 

Credwn fod ein polisi ac agwedd i’r iaith yn unigryw yn y wlad.

 

Y peth holl bwysig wrth gwrs, yw ei fod yn gweithio.

 

Geraint V Jones

Prif arweinydd